YMGYRCH HANES CYMRU
Gohebiaeth os gwelwch yn dda i: Tan-y-dderwen, Penmachno, Betws-y-coed LL24 0PS
owaintan@hotmail.com 01690 760335
Bethan Sayed AC
Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
25 Hydref 2018
Annwyl Bethan Sayed
Cysylltaf â chi ar ran Ymgyrch Hanes Cymru, ymgyrch a sefydlwyd trwy gydweithrediad nifer o fudiadau ac unigolion yn dilyn cynhadledd genedlaethol oherwydd pryder am y diffyg sylw a gaiff hanes Cymru gan lawer o ysgolion Cymru.
Cyflwynwn y sylwadau canlynol:
1. Mae Ymgyrch Hanes Cymru’n croesawu bwriad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i gynnal ymchwiliad i addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru, gan nodi bod hyn yn ganlyniad galw cyhoeddus am drafodaeth ar y materion hyn.
2. Dangosodd yr adroddiad Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru (Medi 2013) yn glir ac yn ddigamsyniol bod hanes Cymru’n ymylol neu’n cael ei anwybyddu’n llwyr mewn nifer fawr o ysgolion. Barn yr Ymgyrch yw nad oes unrhyw newid arwyddocaol wedi bod ers hynny i sicrhau bod hanes Cymru’n cael sylw teilwng.
3. Rydym o’r farn nad oes arweiniad digonol wedi ei roi i’r Ysgolion Arloesi a phartneriaid eraill, sydd ar hyn o bryd yn datblygu’r cwricwlwm ar gyfer Maes Dysgu a Dyniaethau, yn y dogfennau hynny sy’n sail i’r cwricwlwm newydd. Er bod Dyfodol Llwyddiannus (Chwefror, 2015) yn datgan y dylai pob maes gynnwys dimensiwn Cymreig,* nis ymhelaethir ar hynny o gwbl. Nid oes ond prin gyfeirio at y dimensiwn Cymreig yng nghynllun gweithredu’r llywodraeth Cwricwlwm i Gymru, Cwricwlwm am Oes (Hydref 2015) ac nid oes unrhyw ymgais i’w ddiffinio.
* y geiriad yn Saesneg yw “a Welsh dimension” sydd yn fwy llac ac annelwig; gellid yn
hawdd ei ddehongli fel ychwanegu mymryn o hanes Cymru fel atodiad arwynebol.
4. Ymddengys fod yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn anfodlon rhoi cyfarwyddyd clir y dylai hanes Cymru fod yn rhan ganolog a chreiddiol o’r cwricwlwm ar gyfer y Dyniaethau. Gan fod cymaint o ysgolion eisoes yn rhoi cyn lleied o sylw i hanes Cymru, a chymaint o athrawon wedi eu haddysgu a’u hyfforddi dan drefn felly (a nifer wedi eu haddysgu y tu allan i Gymru), pryderwn na fydd yr argymhellion ar gyfer y cwricwlwm newydd yn mynd i’r afael â’r broblem hanesyddol o ddiffyg statws hanes Cymru.
5. Gan fod yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi datgan (10 Hydref 2018) y bydd y cwricwlwm newydd ar gael erbyn Pasg 2019 i’w brofi ac i roi adborth arno, mae’n amlwg y bydd yn rhaid i ymchwiliad eich pwyllgor symud yn gyflym os yw unrhyw ganfyddiadau o’r arolwg yn mynd i ddylanwadu ar y cwricwlwm newydd.
Cyflwynwn y cwestiynau canlynol:
1. Beth fydd y broses ar gyfer derbyn sylwadau a barn gyhoeddus?
2. A oes bwriad i ganiatáu cyflwyno tystiolaeth ar lafar?
3. Os oes, a fydd y pwyllgor yn ymweld â gwahanol lefydd yng Nghymru i hwyluso hynny?
4. Beth yw amserlen ymchwiliad eich pwyllgor? A oes dyddiad penodol ar gyfer llunio a chyflwyno casgliadau?
5. Os, o ganlyniad i ganfyddiadau a chasgliadau’r ymchwiliad, y bydd eich pwyllgor yn dymuno cynnig argymhellion ynglŷn â’r modd yr addysgir hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru, sut y gall hynny’n dylanwadu ar y broses gyfredol o ddatblygu’r cwricwlwm newydd?
Mae Ymgyrch Hanes Cymru’n awyddus iawn i gyflwyno tystiolaeth a byddem yn croesawu’r cyfle i wneud hynny ar lafar ac i gyd-drafod ymhellach.
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ymateb.
Yn gywir
Eryl Owain
Cyd-lynydd Ymgyrch Hanes Cymru